Dydd Iau, Mai 14
Bydd yn barnu’r byd yn hollol deg, a’r bobloedd i gyd ar sail beth sy’n wir.—Salm 96:13.
Sut bydd Jehofa’n anrhydeddu ei enw yn y dyfodol agos? Drwy ei farnedigaethau. Yn fuan, bydd Jehofa’n dinistrio Babilon Fawr am ddod â gwarth ar ei enw sanctaidd. (Dat. 17:5, 16; 19:1, 2) Efallai bydd rhai a fydd yn gweld Babilon Fawr yn cael ei dinistrio yn dechrau addoli Jehofa gyda ni. Yna, yn Armagedon, bydd Jehofa’n dinistrio byd Satan yn llwyr, gan gael gwared ar y rhai sy’n gwrthwynebu Duw ac sy’n cablu ei enw. Ond, bydd pawb sy’n ei garu, sy’n ufudd iddo, ac sydd eisiau ei anrhydeddu yn cael eu hachub. (Marc 8:38; 2 Thes. 1:6-10) Ar ôl y prawf olaf a fydd yn dilyn Teyrnasiad Mil Blynyddoedd Crist, bydd Jehofa wedi sancteiddio ei enw unwaith ac am byth. (Dat. 20:7-10) Ar yr adeg honno, bydd y ddaear wedi ei llenwi “â gwybodaeth o ogoniant yr ARGLWYDD, fel y mae’r dyfroedd yn llenwi’r môr.” (Hab. 2:14, BCND) Oni fydd hi’n hyfryd pan fydd pawb yn rhoi gogoniant i Jehofa yn union fel y mae Ef yn haeddu! w25.01 7 ¶15-16
Dydd Gwener, Mai 15
Mae’n rhaid ichi ddyfalbarhau fel rhan o’ch disgyblaeth.—Heb. 12:7.
Beth fyddai wedi helpu’r Cristnogion Hebreig i ddyfalbarhau yn wyneb erledigaeth? Roedd yr apostol Paul eisiau helpu’r Cristnogion i weld y bendithion o wneud hyn. Er enghraifft, pan ydyn ni’n wynebu treial, gall Duw ei ddefnyddio i’n hyfforddi ni. Gall treialon fel hyn helpu i feithrin rhinweddau angenrheidiol ar gyfer Cristnogion. Byddai canolbwyntio ar y canlyniadau da o’u treialon wedi helpu’r Hebreaid i ddyfalbarhau yn well. (Heb. 12:11) Gwnaeth Paul annog y Cristnogion i fod yn benderfynol o ddyfalbarhau. Roedd Paul mewn sefyllfa dda i ysgrifennu hyn am ei fod wedi erlid Cristnogion yn y gorffennol, ac felly’n gwybod beth roedden nhw’n ei wynebu. Hefyd, roedd yn gwybod sut i ddal ati yn wyneb erledigaeth. Wedi’r cwbl, profodd Paul wahanol fathau o erledigaeth ar ôl iddo ddod yn Gristion.—2 Cor. 11:23-25. w24.09 12-13 ¶16-17
Dydd Sadwrn, Mai 16
Daliwch ati i fod yn wyliadwrus.—Math. 25:13.
Wrth i bob diwrnod fynd heibio, mae ein gweinidogaeth yn dod yn bwysicach byth. Pam? Oherwydd mae’r amser yn fyr. Ystyria beth ragfynegodd Iesu am y gwaith pregethu yn y dyddiau olaf, fel y cofnodwyd yn Marc 13:10. Yn ôl llyfr Mathew, dywedodd Iesu y byddai’r newyddion da “yn cael eu pregethu drwy’r byd i gyd” cyn i’r “diwedd” ddod. (Math. 24:14) Mae’r ymadrodd hwnnw’n cyfeirio at ddiwedd byd drygionus Satan. Mae Jehofa wedi penodi “dydd” ac “awr” ar gyfer y pethau sydd ar fin digwydd. (Math. 24:36; Act. 1:7) Wrth i bob dydd fynd heibio, rydyn ni un cam yn agosach i’r amser hwnnw. (Rhuf. 13:11) Yn y cyfamser, mae’n rhaid inni ddal ati i bregethu. Ar adegau, mae’n beth da inni ofyn cwestiwn pwysig i ni’n hunain: Pam rydyn ni’n pregethu’r newyddion da? Yn syml, mae cariad yn ein cymell ni i bregethu. Mae ein gwaith pregethu yn dangos ein cariad at y newyddion da, at bobl eraill, ac yn bennaf, at Jehofa a’i enw. w24.05 14-15 ¶2-3