LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2026)
Allgofnodi
Mewngofnodi
LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Croeso.
Adnodd ymchwil ar gyfer cyhoeddiadau mewn amryw ieithoedd a gynhyrchir gan Dystion Jehofa yw hwn.
Er mwyn lawrlwytho cyhoeddiadau, dos at jw.org.
  • Heddiw

Dydd Gwener, Mai 1

Dydy Duw ddim yn dangos ffafriaeth.—Rhuf. 2:11.

Penododd Jehofa offeiriaid i wasanaethu yn y tabernacl ar ôl iddo achub ei bobl o’r Aifft. Cafodd Lefiaid eu haseinio i wneud gwaith arall o gwmpas y tabernacl. A oedd Jehofa’n gofalu am y rhai oedd yn gwasanaethu neu’n byw’n agos at y tabernacl yn fwy nag eraill? Nag oedd! Dydy Jehofa ddim yn dangos ffafriaeth. Roedd gan bawb yn y genedl yr un cyfle i gael perthynas â Jehofa. Er enghraifft, gwnaeth Jehofa sicrhau byddai’r genedl gyfan yn gallu gweld y golofn o gwmwl neu o dân a oedd yn codi uwchben y tabernacl. (Ex. 40:38.) Pan oedd y cwmwl yn dechrau symud i gyfeiriad newydd, roedd pawb yn gallu ei weld a dechrau casglu eu pethau at ei gilydd, tynnu eu pebyll i lawr, a gadael gyda phawb arall. (Num. 9:​15-23) Mewn ffordd debyg, gallwn ni fod yn hyderus y bydd Jehofa yn edrych ar ein holau ni, ni waeth lle ar y ddaear rydyn ni’n byw. w24.06 4 ¶10-12

Chwilio’r Ysgrythurau Bob Dydd—2026

Dydd Sadwrn, Mai 2

Codwch, a dewch inni redeg i ffwrdd oherwydd fydd dim un ohonon ni yn gallu dianc oddi wrth Absalom!—2 Sam. 15:14.

Roedd bywyd Dafydd yn y fantol. Roedd ei fab, Absalom, yn benderfynol o gipio’r orsedd. (2 Sam. 15:​12, 13) Roedd rhaid i Dafydd adael Jerwsalem ar unwaith! Wrth i bawb ddechrau gadael, sylweddolodd Dafydd fod rhaid i rywun aros i ddysgu am gynllwynion Absalom. Felly, fe wnaeth anfon Sadoc ac offeiriaid eraill yn ôl i’r ddinas fel ysbïwyr. (2 Sam. 15:​27-29) Roedd rhaid iddyn nhw fod yn ofalus. Roedd gan Dafydd gynllun a oedd yn cynnwys Sadoc a Chwshai, ffrindiau ffyddlon iddo. (2 Sam. 15:​32-37) Llwyddodd Chwshai i ennill hyder Absalom, ac i awgrymu strategaeth a fyddai’n rhoi amser i Dafydd baratoi am y frwydr i ddod. Nesaf, dywedodd Chwshai wrth Sadoc ac Abiathar beth roedd Absalom yn bwriadu ei wneud. (2 Sam. 17:​8-16) Yna, roedd rhaid i’r dynion hynny anfon neges at Dafydd ac fe wnaeth y neges honno helpu i’w amddiffyn.—2 Sam. 17:​21, 22. w24.07 4-5 ¶9-10

Chwilio’r Ysgrythurau Bob Dydd—2026

Dydd Sul, Mai 3

“Dewch, gadewch i ni ddeall ein gilydd,”—meddai’r ARGLWYDD.—Esei. 1:18.

Mae rhai o weision Jehofa yn dal i deimlo’n bryderus am gamgymeriadau gwnaethon nhw cyn cael eu bedyddio neu hyd yn oed ar ôl. Ond cofia, rhoddodd Jehofa ei unig-anedig fab oherwydd ei gariad dwfn tuag aton ni. Gallwn ni fod yn hyderus bod Jehofa eisiau inni dderbyn ei anrheg. Os ydyn ni a Jehofa yn deall ein gilydd, neu wedi gwneud pethau’n iawn rhyngon ni, fydd Jehofa ddim yn dal ein pechodau yn ein herbyn ni. Am beth gariadus bod Jehofa’n dewis i anghofio ein pechodau o’r gorffennol! Hefyd, nid yw Ef byth yn anghofio ein gweithredoedd da. (Salm 103:​9, 12; Heb. 6:10) Mae’n bwysig i wneud dy orau glas er mwyn canolbwyntio ar y presennol a’r dyfodol yn hytrach nag ar gamgymeriadau’r gorffennol. Ni elli di newid y gorffennol. Ond, gelli di ddod â chlod i Jehofa yn dy amgylchiadau presennol, ac edrych ymlaen at y dyfodol anhygoel y mae ef wedi addo ei roi iti. w24.10 8 ¶8-9

Chwilio’r Ysgrythurau Bob Dydd—2026
Croeso.
Adnodd ymchwil ar gyfer cyhoeddiadau mewn amryw ieithoedd a gynhyrchir gan Dystion Jehofa yw hwn.
Er mwyn lawrlwytho cyhoeddiadau, dos at jw.org.
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2026 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu