Dydd Iau, Medi 3
Oni fydd Barnwr yr holl ddaear yn gwneud beth sy’n iawn?—Gen. 18:25.
A allwn ni fod yn hollol sicr bod barnedigaethau Jehofa’n wastad yn gyfiawn? Wrth gwrs! Roedd Abraham yn deall mai Jehofa ydy’r Barnwr perffaith, doeth, a thrugarog dros “yr holl ddaear.” Mae wedi hyfforddi Ei Fab a rhoi’r cyfrifoldeb iddo i farnu. (Ioan 5:22) Gall Jehofa ac Iesu ddarllen beth sydd yng nghalon pob person ar y ddaear. (Math. 9:4) Byddan nhw’n wastad “yn gwneud beth sy’n iawn”! Mae Jehofa yn gwybod yn well na ni. Rydyn ni’n gwybod dydyn ni ddim yn gymwys i farnu—ond mae Jehofa’n gymwys! (Esei. 55:8, 9) Felly, yn llawn hyder, gad inni adael y barnu i Jehofa a’i Fab, sy’n adlewyrchu cyfiawnder a thrugaredd ei Dad yn berffaith.—Esei. 11:3, 4. w24.05 7 ¶18-19
Dydd Gwener, Medi 4
Mae’n gas gan yr ARGLWYDD bobl sy’n twyllo, ond mae ganddo berthynas glòs gyda’r rhai sy’n onest.—Diar. 3:32.
Mae’n bwysig iawn inni ddweud y gwir bob amser. Mae hyn yn glir o beth ddigwyddodd pan ddaeth Philip a’i ffrind Nathanael i gwrdd â Iesu. Doedd Iesu ddim wedi cwrdd â Nathanael o’r blaen, ond dywedodd: “Dyma Israeliad sydd yn wir heb unrhyw dwyll ynddo.” (Ioan 1:47) Gwelodd Iesu fod Nathanael yn ddyn hynod o onest. Roedd Nathanael yn amherffaith, ond doedd ’na ddim byd ffug neu’n rhagrithiol amdano. Roedd Iesu yn edmygu hynny, a rhoddodd canmoliaeth iddo. Mae’r rhan fwyaf o Salm 15 yn cyfeirio at sut gallwn ni blesio Jehofa yn y ffordd rydyn ni’n trin pobl eraill. Mae Salm 15:3 yn dweud nad ydy rhywun ym mhabell Jehofa yn “defnyddio’i dafod i wneud drwg, i wneud niwed i neb, na gwneud hwyl ar ben pobl eraill.” Byddai camddefnyddio ein tafod yn gallu achosi niwed difrifol i eraill.—Iago 1:26. w24.06 10 ¶7; 11 ¶9, 10
Dydd Sadwrn, Medi 5
Arglwydd, mae hyd yn oed y cythreuliaid yn ufudd inni drwy ddefnyddio dy enw.—Luc 10:17.
Os wyt ti’n paratoi’n dda ar gyfer y weinidogaeth, byddi di’n teimlo’n fwy cyfforddus wrth siarad ag eraill. Roedd Iesu wedi helpu ei ddisgyblion i baratoi ar gyfer y weinidogaeth cyn eu hanfon nhw allan. (Luc 10:1-11) O ganlyniad i wneud beth ddywedodd Iesu wrthyn nhw, cawson nhw lawenydd mawr o beth roedden nhw’n gallu ei gyflawni. Sut gallwn ni baratoi ar gyfer y weinidogaeth? Mae’n rhaid inni feddwl yn ddwys am sut gallwn ni siarad am y gwir yn ein geiriau ein hunain. Mae hefyd yn syniad da i ystyried dau neu dri ymateb sy’n gyffredin yn dy diriogaeth a meddwl am sut i ddelio â nhw. Wedyn, wrth fynd i siarad â phobl, gallwn ni ymlacio, gwenu, a bod yn gyfeillgar. w24.04 16 ¶6-7