LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Eseciel 12
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun Eseciel

      • Gweithredoedd Eseciel yn rhagfynegi alltudiaeth (1-20)

        • Bagiau ar gyfer yr alltudiaeth (1-7)

        • Pennaeth yn gadael yn y tywyllwch (8-16)

        • Bwyta bara mewn pryder, dychryn wrth yfed dŵr (17-20)

      • Gwrthbrofi dihareb dwyllodrus (21-28)

        • “Ni fydd unrhyw un o fy ngeiriau yn cael ei ohirio” (28)

Eseciel 12:24

Troednodiadau

  • *

    Neu “dewiniaeth dwyllodrus; dauwynebog.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
  • 24
  • 25
  • 26
  • 27
  • 28
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Eseciel 12:1-28

Eseciel

12 Daeth gair Jehofa ata i unwaith eto, yn dweud: 2 “Fab y dyn, rwyt ti’n byw ynghanol pobl wrthryfelgar. Mae ganddyn nhw lygaid i weld, ond dydyn nhw ddim yn gweld, a chlustiau i glywed, ond dydyn nhw ddim yn clywed, am eu bod nhw’n bobl wrthryfelgar. 3 A tithau, fab y dyn, rho dy bethau mewn bagiau fel petaset ti ar fin cael dy alltudio. Yna, yn ystod y dydd, tra eu bod nhw’n gwylio, mae’n rhaid iti adael fel alltud. Mae’n rhaid iti fynd o dy gartref i rywle arall, fel petaset ti’n cael dy alltudio o flaen eu llygaid. Efallai y byddan nhw’n cymryd sylw, er eu bod nhw’n bobl wrthryfelgar. 4 Tyrd â’r bagiau y gwnest ti eu paratoi ar gyfer yr alltud allan yn ystod y dydd tra eu bod nhw’n gwylio, ac yna gyda’r nos, o flaen eu llygaid, dylet ti adael fel rhywun sy’n cael ei alltudio.

5 “Tra eu bod nhw’n gwylio, gwna dwll yn y wal, a charia dy eiddo allan drwyddo. 6 Tra eu bod nhw’n gwylio, rho dy bethau ar dy ysgwydd a’u cario nhw allan yn y tywyllwch. Gorchuddia dy wyneb fel na elli di weld y llawr, oherwydd rydw i’n dy wneud di’n arwydd i dŷ Israel.”

7 Gwnes i’n union fel roedd Duw wedi gorchymyn imi. Yn ystod y dydd, des i â fy magiau allan fel petasen nhw’n fagiau alltud, a gyda’r nos dyma fi’n gwneud twll yn y wal â fy nwylo. A thra oedd hi’n dywyll, es i â fy mhethau allan, gan eu cario nhw ar fy ysgwydd o flaen eu llygaid.

8 Yn y bore daeth gair Jehofa ata i unwaith eto, yn dweud: 9 “Fab y dyn, oni wnaeth tŷ Israel, y bobl wrthryfelgar, ofyn iti, ‘Beth rwyt ti’n ei wneud?’ 10 Dyweda wrthyn nhw, ‘Dyma beth mae’r Sofran Arglwydd Jehofa yn ei ddweud: “Mae’r datganiad hwn yn ymwneud â’r pennaeth yn Jerwsalem a holl bobl Israel sydd y tu mewn i’r ddinas.”’

11 “Dyweda, ‘Rydw i’n arwydd ar eich cyfer chi. Yn union fel rydw i wedi gwneud, dyna beth fydd yn digwydd iddyn nhw. Byddan nhw’n cael eu halltudio a’u cymryd yn gaeth. 12 Bydd y pennaeth sydd yn eu mysg yn cario ei eiddo ar ei ysgwydd, ac yn gadael yn y tywyllwch. Bydd yn gwneud twll yn y wal ac yn cario ei bethau allan drwyddo. Bydd yn gorchuddio ei wyneb fel na fydd yn gallu gweld y llawr.’ 13 Bydda i’n taflu fy rhwyd drosto, a bydd yn cael ei ddal yn fy rhwyd hela. Yna, bydda i’n dod ag ef i Fabilon, i wlad y Caldeaid, ond ni fydd yn ei gweld; a dyna lle bydd ef yn marw. 14 Ac ynglŷn â phawb sydd o’i gwmpas, ei helpwyr a’i filwyr, bydda i’n eu gwasgaru nhw i bob cyfeiriad; a bydda i’n tynnu cleddyf i fynd ar eu holau nhw. 15 A phan fydda i’n eu gyrru nhw ar chwâl ymhlith y cenhedloedd ac yn eu gwasgaru nhw ymysg y gwledydd, bydd rhaid iddyn nhw wybod mai fi yw Jehofa. 16 Ond, bydda i’n achub rhai ohonyn nhw rhag y cleddyf, y newyn, a’r pla, fel eu bod nhw’n gallu sôn am eu harferion ffiaidd wrth y cenhedloedd lle byddan nhw’n mynd; a bydd rhaid iddyn nhw wybod mai fi yw Jehofa.”

17 A daeth gair Jehofa ata i unwaith eto, yn dweud: 18 “Fab y dyn, dylet ti grynu wrth fwyta dy fara, ac yfed dy ddŵr mewn ofn a phryder. 19 Dyweda wrth bobl y wlad, ‘Dyma beth mae’r Sofran Arglwydd Jehofa yn ei ddweud wrth y bobl sy’n byw yn Jerwsalem yng ngwlad Israel: “Byddan nhw’n bwyta bara mewn pryder, ac yn dychryn wrth yfed dŵr, oherwydd bydd eu gwlad yn troi’n hollol ddiffaith oherwydd trais pawb sy’n byw yno. 20 Bydd y dinasoedd y mae pobl yn byw ynddyn nhw yn cael eu dinistrio, a bydd y wlad yn troi’n ddiffaith; a bydd rhaid ichi wybod mai fi yw Jehofa.”’”

21 A daeth gair Jehofa ata i unwaith eto, yn dweud: 22 “Fab y dyn, beth ydy’r ddihareb hon sydd gynnoch chi yn Israel sy’n dweud, ‘Mae’r dyddiau’n mynd heibio, ond eto does yr un weledigaeth wedi dod yn wir’? 23 Felly dyweda wrthyn nhw, ‘Dyma beth mae’r Sofran Arglwydd Jehofa yn ei ddweud: “Bydda i’n rhoi diwedd ar y dywediad hwn, ac ni fydd yn cael ei ddefnyddio eto fel dihareb yn Israel.”’ Ond dyweda wrthyn nhw, ‘Mae’r dyddiau yn agos, a bydd pob gweledigaeth yn cael ei chyflawni.’ 24 Oherwydd ni fydd unrhyw weledigaeth ffals na dewiniaeth sebonllyd* ymhlith pobl Israel bellach. 25 ‘“Oherwydd bydda i, Jehofa, yn siarad. Bydd pa bynnag air rydw i’n ei ddweud yn cael ei gyflawni heb oedi pellach. Yn eich dyddiau chi, O bobl wrthryfelgar, bydda i’n siarad ac yn cyflawni fy ngeiriau,” meddai’r Sofran Arglwydd Jehofa.’”

26 Daeth gair Jehofa ata i unwaith eto, yn dweud: 27 “Fab y dyn, dyma beth mae pobl Israel yn ei ddweud, ‘Mae ei weledigaeth yn sôn am adeg bell i ffwrdd, ac mae’n proffwydo am y dyfodol pell.’ 28 Felly dyweda wrthyn nhw, ‘Dyma beth mae’r Sofran Arglwydd Jehofa yn ei ddweud: “‘Ni fydd unrhyw un o fy ngeiriau yn cael ei ohirio; bydd beth bynnag rydw i’n ei ddweud yn cael ei wneud,’ meddai’r Sofran Arglwydd Jehofa.”’”

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2026)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2026 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu