Eseciel
20 Nawr yn y seithfed flwyddyn, yn y pumed mis, ar y degfed diwrnod o’r mis, daeth rhai o henuriaid Israel ata i ac eistedd o fy mlaen er mwyn holi Jehofa. 2 Yna daeth gair Jehofa ata i, yn dweud: 3 “Fab y dyn, siarada â henuriaid Israel a dyweda wrthyn nhw, ‘Dyma beth mae’r Sofran Arglwydd Jehofa yn ei ddweud: “Ydych chi’n dod i fy holi i? ‘Mor sicr â’r ffaith fy mod i’n fyw, wna i ddim eich ateb chi,’ meddai’r Sofran Arglwydd Jehofa.”’
4 “A wyt ti’n barod i’w barnu nhw? A wyt ti’n barod i’w barnu nhw, fab y dyn? Gwna nhw’n ymwybodol o’r pethau ffiaidd a wnaeth eu cyndadau. 5 Dyweda wrthyn nhw, ‘Dyma beth mae’r Sofran Arglwydd Jehofa yn ei ddweud: “Ar y diwrnod y gwnes i ddewis Israel, gwnes i hefyd addo ar lw i ddisgynyddion tŷ Jacob, a gwneud iddyn nhw wybod pwy ydw i yng ngwlad yr Aifft. Do, fe wnes i addo ar lw iddyn nhw, gan ddweud, ‘Fi yw Jehofa eich Duw.’ 6 Ar y diwrnod hwnnw, gwnes i dyngu llw i addo y byddwn i’n dod â nhw allan o wlad yr Aifft, i wlad roeddwn i wedi ei dewis* ar eu cyfer nhw, un lle mae llaeth a mêl yn llifo. Hi oedd y mwyaf prydferth o’r gwledydd i gyd. 7 Yna dywedais wrthyn nhw, ‘Mae’n rhaid i bob un ohonoch chi gael gwared ar y pethau afiach sydd o flaen eich llygaid; peidiwch â’ch halogi eich hunain ag eilunod ffiaidd* yr Aifft. Fi yw Jehofa eich Duw.’
8 “‘“Ond dyma nhw’n gwrthryfela yn fy erbyn, a doedden nhw ddim yn fodlon gwrando arna i. Ni wnaethon nhw gael gwared ar y pethau afiach a oedd o’u blaenau, ac roedden nhw’n gwrthod cefnu ar eilunod ffiaidd yr Aifft. Felly gwnes i addo y byddwn i’n tywallt* fy llid arnyn nhw, a’u taro nhw â fy holl ddicter yng ngwlad yr Aifft. 9 Ond gwnes i weithredu er mwyn fy enw i, fel na fyddai’n cael ei gablu yng ngolwg y cenhedloedd hynny roedden nhw’n byw yn eu plith. Oherwydd roeddwn i wedi fy natgelu fy hun iddyn nhw* o flaen y cenhedloedd hyn pan ddes i â nhw* allan o wlad yr Aifft. 10 Felly des i â nhw allan o wlad yr Aifft a’u harwain nhw i mewn i’r anialwch.
11 “‘“Yna rhoddais fy neddfau iddyn nhw a rhoi gwybod iddyn nhw am fy marnedigaethau, fel y byddai’r dyn sy’n eu dilyn nhw yn cael aros yn fyw trwyddyn nhw. 12 Hefyd, rhoddais fy sabothau iddyn nhw fel arwydd rhyngo i a nhw, fel y bydden nhw’n gwybod mai fi, Jehofa, yw’r un sy’n eu sancteiddio nhw.
13 “‘“Ond gwrthryfelodd tŷ Israel yn fy erbyn yn yr anialwch. Ni wnaethon nhw gerdded yn unol â fy neddfau, a gwrthodon nhw fy marnedigaethau, y rhai sy’n rhoi bywyd i’r dyn sy’n eu dilyn. Gwnaethon nhw halogi fy sabothau yn llwyr. Felly gwnes i addo tywallt* fy ffyrnigrwydd arnyn nhw yn yr anialwch er mwyn eu difa nhw’n gyfan gwbl. 14 Ond gwnes i weithredu er mwyn fy enw fy hun, fel na fyddai’n cael ei gablu yng ngolwg y cenhedloedd, y rhai a wnaeth fy ngwylio i’n dod â nhw* allan o’r Aifft. 15 Gwnes i hefyd dyngu llw yn yr anialwch i ddweud na fyddwn i’n dod â nhw i mewn i’r wlad roeddwn i wedi ei rhoi iddyn nhw—gwlad lle mae llaeth a mêl yn llifo, yr un fwyaf prydferth o’r gwledydd i gyd— 16 am eu bod nhw wedi gwrthod fy marnedigaethau, wedi halogi fy sabothau, a heb gerdded yn unol â fy neddfau, oherwydd roedd eu calonnau’n dilyn eu heilunod ffiaidd.
17 “‘“Ond roeddwn i’n teimlo trueni drostyn nhw, ac ni wnes i eu dinistrio nhw; ni wnes i eu difa nhw’n llwyr yn yr anialwch. 18 Dywedais wrth eu meibion yn yr anialwch, ‘Peidiwch â dilyn deddfau eich cyndadau, na chadw eu barnedigaethau, nac eich halogi eich hunain â’u heilunod ffiaidd. 19 Fi yw Jehofa eich Duw. Dilynwch fy neddfau i, a chadwch fy marnedigaethau, a rhowch nhw ar waith. 20 A sancteiddiwch fy sabothau, a byddan nhw’n arwydd rhyngoch chi a mi er mwyn ichi wybod mai fi yw Jehofa eich Duw.’
21 “‘“Ond dechreuodd y meibion wrthryfela yn fy erbyn i. Ni wnaethon nhw gerdded yn unol â fy neddfau, na rhoi fy marnedigaethau ar waith, y rhai sy’n rhoi bywyd i’r dyn sy’n eu dilyn nhw. Maen nhw wedi halogi fy sabothau. Felly, gwnes i addo tywallt* fy nicter arnyn nhw, a’u taro nhw â fy holl lid yn yr anialwch. 22 Ond gwnes i ddal yn ôl, a gweithredu er mwyn fy enw fy hun, fel na fyddai’n cael ei gablu o flaen y cenhedloedd, y rhai a wnaeth fy ngwylio i’n dod â nhw* allan o’r Aifft. 23 Hefyd, gwnes i dyngu llw yn yr anialwch i addo y byddwn i’n eu gwasgaru nhw ymhlith y cenhedloedd, ac yn eu gyrru nhw ar chwâl ymysg y gwledydd, 24 am nad oedden nhw wedi rhoi fy marnedigaethau ar waith, ac am eu bod nhw wedi gwrthod fy neddfau, halogi fy sabothau, ac addoli eilunod ffiaidd eu cyndadau. 25 Gwnes i hefyd ganiatáu iddyn nhw ddilyn deddfau gwael, a barnedigaethau nad oedden nhw’n gallu cael bywyd trwyddyn nhw. 26 Gwnes i adael iddyn nhw gael eu halogi gan eu haberthau eu hunain—pan oedden nhw’n gwneud i bob plentyn cyntaf-anedig fynd drwy’r tân—er mwyn eu difetha nhw, fel y bydden nhw’n gwybod mai fi yw Jehofa.”’
27 “Felly siarada â thŷ Israel, O fab y dyn, a dyweda wrthyn nhw, ‘Dyma beth mae’r Sofran Arglwydd Jehofa yn ei ddweud: “Yn y ffordd hon hefyd, gwnaeth eich cyndadau fy nghablu drwy fod yn anffyddlon imi. 28 Des i â nhw i mewn i’r wlad roeddwn i wedi addo ar lw ei rhoi iddyn nhw. Pan welson nhw’r holl fryniau uchel a’r coed deiliog, dechreuon nhw gyflwyno aberthau ac offrymau a oedd yn fy nigio. Gwnaethon nhw gyflwyno arogl persawrus eu haberthau a thywallt* eu hoffrymau diod yno. 29 Felly gofynnais iddyn nhw, ‘Beth yw ystyr yr uchelfan hon rydych chi’n mynd ati? (Mae hi’n dal i gael ei galw’n Uchelfan hyd heddiw.)’”’
30 “Nawr dyweda wrth dŷ Israel, ‘Dyma beth mae’r Sofran Arglwydd Jehofa yn ei ddweud: “A ydych chi’n eich halogi eich hunain yn yr un ffordd ag y gwnaeth eich cyndadau drwy addoli eu heilunod ffiaidd er mwyn eich puteinio eich hunain yn ysbrydol â nhw? 31 Ac a ydych chi’n dal i’ch halogi eich hunain hyd heddiw drwy offrymu aberthau i’ch holl eilunod ffiaidd, gan wneud i’ch meibion fynd drwy’r tân? A ddylwn i, ar yr un pryd, eich ateb chi, O dŷ Israel?”’
“‘Mor sicr â’r ffaith fy mod i’n fyw,’ meddai’r Sofran Arglwydd Jehofa, ‘Wna i ddim eich ateb chi. 32 Ac ynglŷn â’r hyn sydd gynnoch chi mewn meddwl pan ydych chi’n dweud, “Gadewch inni fod fel y cenhedloedd, fel teuluoedd y gwledydd eraill sy’n addoli* pren a charreg,” ni fydd hynny byth yn digwydd.’”
33 “‘Mor sicr â’r ffaith fy mod i’n fyw,’ meddai’r Sofran Arglwydd Jehofa, ‘Bydda i’n frenin arnoch chi, a bydda i’n teyrnasu drostoch chi â llaw gref a braich nerthol,* a bydda i’n tywallt* fy ffyrnigrwydd arnoch chi. 34 Bydda i’n dod â chi allan o blith y bobloedd ac yn eich casglu chi at eich gilydd o blith y gwledydd lle rydych chi wedi cael eich gwasgaru iddyn nhw. Bydda i’n gwneud hyn â llaw gref a braich nerthol,* a bydda i’n tywallt* fy ffyrnigrwydd arnoch chi. 35 Bydda i’n dod â chi i mewn i anialwch y bobloedd, a bydda i fy hun yn eich barnu chi yno.
36 “‘Yn union fel gwnes i farnu eich cyndadau yn anialwch gwlad yr Aifft, felly hefyd bydda i’n eich barnu chi,’ meddai’r Sofran Arglwydd Jehofa. 37 ‘Bydda i’n gwneud i chi basio o dan ffon y bugail, a bydda i’n eich rhoi chi o dan orfodaeth i gadw’r cyfamod. 38 Ond bydda i’n cael gwared ar y rhai yn eich plith sy’n gwrthryfela ac sy’n troseddu yn fy erbyn. Oherwydd bydda i’n dod â nhw allan o’r wlad lle maen nhw’n byw fel estroniaid, ond ni fyddan nhw’n mynd i mewn i wlad Israel; a bydd rhaid ichi wybod mai fi yw Jehofa.’
39 “Ynglŷn â chi, O dŷ Israel, dyma beth mae’r Sofran Arglwydd Jehofa yn ei ddweud: ‘Ewch, bob un ohonoch chi, i wasanaethu eich eilunod ffiaidd. Ond bydd rhaid ichi wybod hyn: Os nad ydych chi’n dechrau gwrando arna i, bydd yr amser yn dod pan na fyddwch chi bellach yn gallu halogi fy enw sanctaidd â’ch aberthau a’ch eilunod ffiaidd.’
40 “‘Oherwydd ar fy mynydd sanctaidd, ar fynydd uchel yn Israel,’ meddai’r Sofran Arglwydd Jehofa, ‘dyna lle bydd tŷ cyfan Israel, y bobl i gyd, yn fy ngwasanaethu i yn y wlad. Byddan nhw’n dod â phleser imi yno, a bydda i’n gofyn gynnoch chi eich cyfraniadau a ffrwythau cyntaf eich offrymau, eich holl bethau sanctaidd. 41 Oherwydd yr arogl persawrus, byddwch chi’n dod â phleser imi pan fydda i’n dod â chi allan o blith y bobloedd ac yn eich casglu chi at eich gilydd o’r gwledydd lle rydych chi wedi cael eich gwasgaru iddyn nhw; a bydd y ffordd bydda i’n delio â chi yn dangos fy sancteiddrwydd o flaen y cenhedloedd.’
42 “‘A bydd rhaid ichi wybod mai fi yw Jehofa pan fydda i’n dod â chi i mewn i wlad Israel, i mewn i’r wlad gwnes i addo ar lw ei rhoi i’ch cyndadau. 43 Ac yno byddwch chi’n cofio eich ymddygiad a’r holl bethau a wnaethoch chi i’ch halogi eich hunain, a byddwch chi’n eich casáu eich hunain oherwydd yr holl bethau drwg a wnaethoch chi. 44 Yna bydd rhaid ichi wybod mai fi yw Jehofa pan fydda i’n delio â chi er mwyn fy enw i, nid yn ôl eich ymddygiad drygionus nac yn ôl eich gweithredoedd llwgr, O dŷ Israel,’ meddai’r Sofran Arglwydd Jehofa.”
45 A daeth gair Jehofa ata i eto, yn dweud: 46 “Fab y dyn, tro dy wyneb i gyfeiriad ardal y de a chyhoedda i’r de, a phroffwyda yn erbyn y goedwig yn ardal y de. 47 Dyweda wrth goedwig y de, ‘Gwranda ar air Jehofa. Dyma beth mae’r Sofran Arglwydd Jehofa yn ei ddweud: “Rydw i’n cynnau tân ynot ti a fydd yn llosgi pob coeden werdd a phob coeden sych ynot ti. Ni fydd y fflam danbaid yn cael ei diffodd, a bydd pob wyneb, o’r de i’r gogledd, yn cael ei losgi gan y tân. 48 A bydd pob person yn gweld mai fi, Jehofa, sydd wedi ei rhoi ar dân, ac ni fydd yn cael ei ddiffodd.”’”
49 A dywedais: “O Sofran Arglwydd Jehofa! Maen nhw’n dweud amdana i, ‘Mae’n siarad mewn damhegion!’”