Eseciel
27 Daeth gair Jehofa ata i eto, yn dweud: 2 “A tithau, fab y dyn, cana alarnad* dros Tyrus, 3 a dyweda wrth Tyrus,
‘Ti sy’n byw wrth byrth y môr,
Masnachwr y bobloedd ar lawer o ynysoedd,
Dyma beth mae’r Sofran Arglwydd Jehofa yn ei ddweud:
“O Tyrus, rwyt ti dy hun wedi dweud, ‘Rydw i’n berffaith yn fy harddwch.’
4 Mae dy ffiniau yng nghanol y môr,
Ac mae dy adeiladwyr wedi perffeithio dy harddwch.
5 Defnyddion nhw goed meryw Senir ar gyfer dy holl blanciau,
A chymeron nhw goeden gedrwydd o Lebanon er mwyn gwneud hwylbren iti.
6 Gwnaethon nhw rwyfau iti allan o dderw Basan,
A chafodd dy ran flaen ei gwneud o goed cypres wedi eu haddurno ag ifori o ynysoedd Cittim.
7 Roedd dy hwyl wedi ei gwneud o liain lliwgar o’r Aifft,
A chafodd y cysgodlenni dros dy ddec eu gwneud o edau las a gwlân porffor o ynysoedd Elisa.
8 Pobl Sidon ac Arfad oedd dy rwyfwyr.
A dy ddynion medrus dy hun, O Tyrus, oedd dy forwyr.
9 Cafodd unrhyw graciau ynot ti eu calcio* gan ddynion profiadol a medrus Gebal.
Daeth holl longau’r môr a’u morwyr atat ti i fasnachu.
10 Roedd dynion Persia, Lud, a Put yn filwyr yn dy fyddin.
Roedden nhw’n hongian eu tarianau a’u helmedau ar dy waliau, ac yn dy wneud di’n ogoneddus.
11 Roedd dy filwyr o Arfad wedi eu gosod ar hyd dy waliau,
Ac roedd dynion dewr yn gwarchod dy dyrau.
Gwnaethon nhw hongian tarianau crwn yr holl ffordd o gwmpas dy waliau
A pherffeithio dy harddwch.
12 “‘“Roedd Tarsis yn masnachu gyda ti oherwydd dy gyfoeth helaeth. Roedden nhw’n cyfnewid arian, haearn, tun, a phlwm am dy nwyddau di. 13 Roedd Jafan, Tubal, a Mesech yn masnachu gyda ti, gan gyfnewid caethweision a llestri copr am dy nwyddau di. 14 Roedd disgynyddion Togarma yn cyfnewid ceffylau, meirch, a mulod am dy nwyddau di. 15 Roedd pobl Dedan yn masnachu gyda ti; roeddet ti’n cyflogi masnachwyr ar lawer o ynysoedd; rhoddon nhw eboni a chyrn* ifori yn anrheg* iti. 16 Roedd Edom yn masnachu gyda ti am fod gen ti ddigonedd o gynnyrch. Roedden nhw’n cyfnewid glasfaen, gwlân porffor, defnydd lliwgar wedi ei frodio, lliain main, cwrel, a rhuddem am dy nwyddau.
17 “‘“Roedd Jwda a gwlad Israel yn masnachu gyda ti, gan gyfnewid gwenith o Minnith, bwyd da, mêl, olew, a balm am dy gynnyrch.
18 “‘“Roedd Damascus yn masnachu gyda ti oherwydd dy gynnyrch helaeth a dy holl gyfoeth, gan werthu gwin o Helbon a gwlân o Sahar. 19 Gwnaeth Fedan a Jafan o Usal gyfnewid corsennau pêr, casia,* a phethau wedi eu gwneud o haearn am dy nwyddau. 20 Er mwyn prynu dy nwyddau, rhoddodd Dedan lieiniau iti eu rhoi ar gefn ceffylau.* 21 Roeddet ti’n cyflogi’r Arabiaid a holl benaethiaid Cedar, masnachwyr a oedd yn gwerthu ŵyn, hyrddod,* a geifr. 22 Roedd masnachwyr Seba a Rama yn cyfnewid nwyddau gyda ti; gwnaethon nhw gyfnewid pob math o bersawr a gemau gwerthfawr am dy gynnyrch di, yn ogystal ag aur. 23 Roedd Haran, Canne, Eden, masnachwyr Seba, Assur, a Cilmad yn masnachu gyda ti. 24 Yn dy farchnad roedden nhw’n cyfnewid dillad prydferth, mentyll wedi eu gwneud o ddefnydd glas a’u haddurno â brodwaith lliwgar, a charpedi amryliw, i gyd wedi eu rhwymo a’u clymu â rhaffau.
25 Roedd llongau Tarsis yn cludo dy nwyddau
Fel dy fod ti’n llawn ac wedi dy lwytho’n drwm* yng nghanol y môr.
26 Mae dy rwyfwyr wedi dod â ti i foroedd stormus;
Mae gwynt y dwyrain wedi dy ddryllio di yng nghanol y môr.
27 Ynglŷn â dy gyfoeth, dy nwyddau, dy gynnyrch, dy longwyr, a dy forwyr,
Dy fasnachwyr, dy holl filwyr, a’r rhai sy’n calcio unrhyw graciau,
—Pawb sydd ynot ti—
Byddan nhw i gyd yn suddo i ganol y môr ar ddiwrnod dy gwymp.
28 Pan fydd dy forwyr yn gweiddi, bydd ardal yr arfordir yn crynu.
29 Bydd yr holl rwyfwyr, y morwyr, a’r llongwyr
Yn dod i lawr oddi ar eu llongau ac yn sefyll ar y tir.
30 Byddan nhw’n codi eu lleisiau ac yn wylo’n chwerw drostot ti
Wrth iddyn nhw daflu llwch ar eu pennau a rholio mewn lludw.
31 Byddan nhw’n siafio eu pennau ac yn gwisgo sachliain;
Byddan nhw’n wylo’n chwerw drostot ti gan lefain yn arw.
32 Wrth alaru byddan nhw’n canu galarnad drostot ti:
‘Pwy sy’n debyg i Tyrus, sydd bellach yn ddistaw yng nghanol y môr?
33 Pan ddaeth dy nwyddau i mewn o’r môr, gwnest ti fodloni llawer o bobloedd.
Roedd dy gyfoeth helaeth a dy gynnyrch yn cyfoethogi brenhinoedd y ddaear.
34 Ond nawr rwyt ti wedi cael dy ddryllio yn y môr, yn y dyfroedd dwfn,
Ac mae dy holl gynnyrch a dy bobl wedi suddo gyda ti.
35 Bydd holl drigolion yr ynysoedd yn syllu arnat ti ac yn rhyfeddu.
A bydd eu brenhinoedd yn crynu ag arswyd—bydd eu hwynebau yn dangos eu bod nhw wedi cynhyrfu.
36 Bydd y masnachwyr ymhlith y cenhedloedd yn chwibanu dros beth ddigwyddodd iti.
Bydd dy ddiwedd yn sydyn ac yn ofnadwy,
Ac fe fyddi di wedi diflannu unwaith ac am byth.’”’”